Mae yna gynlluniau ar gyfer creu cwrs MA Sioeau Cerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2011.
Dyma fyddai’r cwrs ôl-radd cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac yn ôl y coleg fe fydd yn cael ei sefydlu er mwyn ateb galw mawr yn y diwydiant.
Mae’n debygol mai Vivien Care, a gafodd ei hyfforddi yn y Coleg Brenhinol Cymru, fydd arweinydd y cwrs arfaethedig.
Ond, fe fydd yr holl staff actio yn ogystal â rhai o athrawon craidd cerddoriaeth y Coleg yn chwarae rhan hefyd, medden nhw.
“Mae’r cwrs yma’n rhywbeth ydw i wedi bod yn gobeithio amdano am yn hir ac mae yna lawer o feddwl wedi mynd i mewn iddi,” meddai Vicien Care ar wefan Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Angen ateb y galw
Yn ôl enillydd cystadleuaeth Cân Sioe Gerdd Eisteddfod yr Urdd 2007, mae sioeau cerdd yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd.
“Yn sicr, mi fuaswn i’n croesawu cwrs fel hwn yng Nghymru. Byddai’n grêt petai nhw’n llwyfannu sioeau a chynyrchiadau hefyd,” meddai Gwenllïan Mai Elias, sydd bellach yn astudio cwrs llais pedair blynedd yn y Royal Northen College of Music ym Manceinion.
“Mae’r gystadleuaeth sioe gerdd yn yr Eisteddfod yn brawf o ba mor boblogaidd ydi cerddoriaeth sioe gerdd yng Nghymru.
“Mae angen i ni ymateb i’r brwdfrydedd yna a’i ddatblygu.”