Mae elusen wedi galw ar wirfoddolwyr i greu darn o ‘gelf stryd’ dros dro er mwyn gweddnewid un o safleoedd glan môr y Rhyl.

Nod yr Ymgyrch Arlunio yw annog y cyhoedd i ddefnyddio sialc er mwyn addurno’r gofod o flaen Canolfan Bywyd Môr y dref.

Y môr fydd y thema, ac mae’r gweithgaredd fydd yn cael ei gynnal ar 14 a 15 Hydref, rhwng 10am a 4pm, am ddim ac yn agored i bawb sydd eisiau cymryd rhan.

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymgyrch ‘Big Draw’ yr Ymgyrch Arlunio, elusen sy’n ceisio annog y cyhoedd i ddangos eu doniau creadigol.

Yn ôl yr elusen, mae arlunio’n gallu “datblygu creadigrwydd, ac annog pobol i ymddiddori yn eu cymdeithas a’u diwylliant”.

Gall pobol sydd am gymryd rhan yn y digwyddiad yn Y Rhyl fynd a llun efo nhw – sy’n ymwneud â’r môr – i’w gopïo, ond mi fydd deunydd ar gael yno yn ôl yr elusen.

Gall unrhyw un sydd am gymryd rhan gadarnhau’r trefniadau gyda Llyfrgell Y Rhyl ar y rhif 01745 353 814, rhag ofn bod y tywydd wedi effeithio ar y trefniadau.

Mae’r elusen yn argymell y dylai pobol fynd a dillad cynnes a diod boeth efo nhw.