Cyfaddefodd dau ddyn heddiw eu bod nhw wedi lladd pensiynwr wrth oryrru 100 milltir yr awr ar hyd ffordd ddeuol.
Fe fu farw Colin James, 66, o Caeglas, ger Caerfyrddin, o ganlyniad i’r ddamwain car erchyll. Cafodd ei Renault Clio ei daro gan un car i gyfeiriad y car arall yn y gwrthdrawiad.
Roedd Rhydian Griffiths, 20, o Nant-y-Caws, Caerfyrddin, a Richard Williams, 22, o Benygroes, wedi gwadu achosi ei farwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Ond heddiw fe gyfaddefodd y ddau eu bod nhw wedi achosi ei farwolaeth drwy yrru yn esgeulus.
Gohiriodd y Barnwr John Diehl yr achos llys tan 1 Tachwedd ac fe gafodd y ddau ddyn eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Y ddamwain
Fe fu farw Colin James, oedd yn dad i ddau, o fewn munudau i’r ddamwain ar 10 Ebrill, 2009.
Dywedodd yr erlynydd James Jenkins bod Rhydian Griffiths eisiau gyrru’n gyflym pan aeth allan y noson honno.
Roedd y ddau gar yn mynd i gyfeiriad Abertawe ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham.
Roedd Rhydian Griffiths yn gyrru Seat Ibiza, ac roedd perthynas hŷn a’i gariad beichiog 17 oed, Aimee Evans, yn y car gyda fo.
Wrth gyrraedd Cross Hands ymddangosodd Richard Williams, oedd yn goryrru 90 milltir yr awr yn ei Renault Clio.
Yn ôl yr erlyniad roedd Rhydian Griffiths wedi adnabod rhywun oedd eisiau ras ac roedd y ddau gar wedi goryrru i lawr yr A48 tuag at y gyffordd ble’r oedd Colin James yn disgwyl.
Roedd y pensiynwr wedi tynnu allan o’r gyffordd er mwyn ceisio croesi’r ffordd ddeuol wrth i Rhydian Griffiths a Richard Williams agosáu. Cafodd ei daro gan y ddau gar.
“Y car cyntaf i’w daro oedd y Seat Ibiza yr oedd Rhydian Griffiths yn ei yrru,” meddai James Jenkins yn ystod yr achos llys.
“Cafodd ei daro ar gymaint o gyflymder ei fod o wedi mynd yn syth i lwybr y car yr oedd Richard Williams yn ei yrru.
“Fe fu farw o fewn tair munud.
“Nid yn unig oedden nhw’n gorryru ond pwrpas y gorryru oedd er mwyn rasio ei gilydd,” meddai’r erlynydd wedyn.
Dywedodd un llygad-dyst wrth yr achos llys bod Rhydian Griffiths wedi ymddwyn yn ymosodol ar ôl y ddamwain.
Roedd o wedi rhedeg o’i gar gan weiddi a rhegi a dweud bod y pensiynwr wedi tynnu allan o’i flaen o.