Gleision 22 – 6 Connacht
Sicrhaodd y Gleision fuddugoliaeth yn erbyn Connacht dan amgylchiadau anodd neithiwr gan eu codi i frig Cynghrair Magners.
Er hynny, roedd y Gleision a’u hyfforddwr Dai Young yn siomedig â’r perfformiad ar Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae Connacht wedi cael dechrau da i’r tymor ac yn llawer mwy cystadleuol eleni nag yn y blynyddoedd a fu. Yn sicr fe wnaethon nhw fywyd yn anodd i’r Gleision mewn amgylchiadau gwlyb neithiwr.
Roedd y rhanbarth Gwyddelig yn ddigon peryglus yn y cyfnod agoriadol gyda’r asgellwr Fionn Carr yn bygwth sawl gwaith.
Yn wir, y Gwyddelod sgoriodd y pwyntiau cyntaf gyda chic gosb Ian Keatley wedi pum munud.
Er hynny, sicrhaodd troed y maswr Dan Parks fod y Gleision yn ôl ynddi yn fuan wedyn cyn i ranbarth y brifddinas sgorio cais unigol gwych gan Casey Laulala wedi hanner awr. Ychwanegodd Parks y trosiad a cic gosb arall i’w gwneud hi’n 16–3 i’r Gleision ar yr hanner.
Ail hanner siomedig
Llwyddodd Connacht i sgorio pwyntiau cyntaf yr ail hanner gyda chic arall i Keatley yn y munudau agoriadol, ond roedd y ddau dîm yn ei chael hi’n anodd i adeiladu momentwm yn y glaw.
Roedd hynny’n cyfiawnhau penderfyniad y Gleision i gymryd pob cyfle am gic i’r pyst, ac ychwanegodd Dan Parks dri phwynt wedi 29 munud cyn o Leigh drosi cic gosb o’i hanner ei hun i sicrhau’r sgôr terfynol o 22-6.
‘Rhaid gwella’
Roedd hyfforddwr y Gleision, Dai Young, yn amlwg yn siomedig â pherfformiad ei dîm.
“Mae’n rhaid i ni roi clod i Connacht ond fe wnaethon ni achosi pob math o broblemau i’n hunain gyda diffyg cywirdeb, yn enwedig o’r chwarae gosod,” meddai Young.
“Mae’r ystafell newid yn un siomedig ond rydan ni’n gwybod bod rhaid i ni wella ar gyfer y Cwpan Hineken, bydd Caeredin wrth eu boddau yn gwylion hyn heno.”