Mae’n bosib y bydd y Cwpan Ryder eleni yn parhau pedwar diwrnod am y tro cyntaf yn ei hanes 83 mlynedd.
Bu’n rhaid rhoi gorau i chwarae ar ôl dwy awr yn y Celtic Manor, Casnewydd heddiw oherwydd glaw trwm a chwrs golff oedd yn rhy wlyb i chwarae arno.
Dywedodd Capten Ewrop, Colin Montgomerie y byddai’n rhaid gorffen chwarae dydd Llun os nad oedd hi’n bosib ail-ddechrau chwarae heddiw.
Roedd Ewrop ar y blaen pan ddaeth y chwarae i ben am 9.45am heddiw. Erbyn hynny roedd sawl llyn ychwanegol wedi ffurfio ar y cwrs Twenty Ten.
Dywedodd Colin Montgomerie y byddai’n rhaid i’r chwarae ailddechrau am 1.45pm er mwyn caniatáu i’r Cwpan Ryder ddod i ben ar bnawn dydd Sul.
Ond wrth iddo siarad cyhoeddwyd na fyddai yna benderfyniad ynglŷn ag ailddechrau tan 2pm ar y cynharaf, ac roedd awgrym na fyddai’r chwarae yn dechrau tan 4pm.
“Mae’n rhaid ailddechrau am 1.45pm am ein bod ni wedi colli pedair awr, ac fe fyddai’n bosib cael y pedair awr yn ôl bore dydd Sul,” meddai.
“Os nad ydan ni’n ailddechrau am 1.45pm fydden ni ddim yn gorffen dydd Sul. Dyna sut y mae pethau’n edrych nawr.”