Mae’r heddlu yn ymchwilio i hunanladdiad dwbl ar ôl amau ei fod o’n hynod o debyg i hunanladdiad dwbl arall yr wythnos diwethaf.
Daethpwyd o hyd i gyrff dwy ddynes yn eu hugeiniau mewn fflat wedi ei rentu yn Putney, de orllewin Llundain.
Mae ymchwilwyr yn credu eu bod nhw wedi gwenwyno eu hunain â chemegau ar ôl selio’r drysau a’r ffenestri gyda thâp.
Honnodd un cymydog eu bod nhw wedi ffonio 999 i roi gwybod i’r heddlu y byddai’n beryglus mynd i mewn i’r fflat cyn lladd eu hunain.
Yr wythnos diwethaf daethpwyd o hyd i gyrff Joanne Lee, 34, o Essex, a Stephen Lumb, 35, o Orllewin Swydd Efrog, mewn car yn Braintree, Essex.
Roedden nhw hefyd wedi lladd eu hunain gyda chemegau ac wedi gadael posteri ar y ffenestri yn rhybuddio pobol eraill.
Roedd y pâr wedi cyfarfod ar ystafell sgwrsio ar y we, gan arwain at feirniadaeth ynglŷn â safleoedd sy’n annog pobol fregus i ladd eu hunain.
Dywedodd Nicola Peckett, pennaeth cyfathrebu’r Samaritans, fod yna debygrwydd amlwg rhwng y ddau hunanladdiad dwbl.
“Mae’n bosib eu bod nhw wedi copïo ei gilydd,” meddai. “Fe allai fod yn gyd-ddigwyddiad, ond beth yw’r tebygolrwydd o hynny?”