Mae cynghreiriaid yr Arlywydd Hugo Chavez wedi ennill mwyafrif yn etholiadau cyngresol Venezuela, cadarnhaodd pennaeth etholiadol y wlad heddiw.

Fe ddywedodd Llywydd Cyngor Cenedlaethol Etholiadol Tibisay Lucena fod plaid Hugo Chavez wedi ennill o leiaf 90 o 165 o seddi gyda chlymblaid yr wrthblaid yn ennill o leiaf 59 sedd.

Fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r ddau draean o seddi yr oedd yr arlywydd wedi ei obeithio, sef y nifer y byddai ei angen ar gyfer cyflwyno rhai o’i ddiwygiadau cyfansoddiadol.

Yn ôl Tibisay Lucena, roedd seddi eraill wedi mynd i bleidiau bach neu heb eu penderfynu eto. Roedd y cyfrif cychwynnol wedi’i gyhoeddi wyth awr ar ôl diwedd y pleidleisio ddoe, meddai’r llywydd oherwydd bod y pleidleisiau’n agos.

Ond, mae Ramon Guillermo Aveledo – arweinydd clymblaid yr wrthblaid wedi dweud fod yr oedi mewn canlyniadau’n “annerbyniol.”

Mae’r arweinydd yn dadlau yn ôl cyfrif ymgeiswyr gwrth-Chavez eu bod wedi denu mwy na hanner y bleidlais boblogaidd.

Cyn y bleidlais, roedd ymgeiswyr yr wrthblaid wedi beirniadu cyfreithiau a gafodd eu cyflwyno gan gynghreiriaid Chavez yn rhoi mwy o bwysau i bleidleisiau mewn ardaloedd gwledig, lle mae’r arlywydd yn fwy poblogaidd.

Er hyn, roedden nhw wedi cytuno i gymryd rhan yn yr etholiadau a pharchu’r canlyniadau cyn belled â bod cyfrif y bleidlais yn agored a thryloyw.

Roedd Ramon Guillermo Aveledo wedi dweud fod pleidleisiau’r ardaloedd na chafodd eu rhyddhau’n syth yn cefnogi’r wrthblaid ac roedd yn mynnu fod awdurdodau etholiadol yn rhoi manylion am y canlyniadau hynny cyn y wawr.

Llun: Hugo Chavez, Arlywydd Venezuela, ar y dde, yn siarad gydag Aristobulo Izturiz, ymgeisydd dros Blaid Sosialaidd Venezuela, ar ôl pleidleisio yn etholiadau cyngres y wlad ddoe (AP Photo/Ariana Cubillos)