Sêr Dewi 0 – Aberteifi 1
Cafodd pencampwyr presennol y Cynghrair Costcutter Ceredigion, Aberteifi, wres eu traed yn Llanddewi ddydd Sadwrn, cyn sicrhau 3 phwynt arall i sicrhau parhad i’w cychwyn diguro i’r tymor newydd.
Yr ymwelwyr gychwynnodd orau gyda James Evans yn rheoli canol y Cae tra bod Phil Furney a Sam Hall yn llond llaw yn yr ymosod. Galwyd ar Andrew Jones yng ngôl y Sêr i achub y dydd fwy nag unwaith ond gyda Dylan Pugh, Daniel Williams, Mike Thomas, Rhys Evans ac Arwel Jones yn gewri o’i flaen iddo llwyddodd y tîm ifanc o Landdewi i gadw’r cyfleoedd i ergydion o bellter.
Sêr yn gwella wedi’r egwyl
Wedi’r egwyl cryfhaodd y Sêr gan fygwth ar fwy nag un achlysur ond roedd Steve Smith yng ngôl yr ymwelwyr yn ddiogel wrth drafod eu cynigion.
Daeth y gôl dyngedfennol hanner ffordd drwy’r ail hanner, a honno’n gôl ddadleuol tu hwnt. Roedd un o flaenwyr Aberteifi yn cam sefyll yn gysurus o dair llath pan dderbyniodd y bel ond adlamodd oddi arno i un o amddiffynwyr Sêr Dewi. Roedd fflag y llumanwr wedi ei hen godi wrthi bawb ddisgwyl am chwiban y dyfarnwr. Ond, penderfynodd yntau bod digon o fantais wedi ei gynnig i’r amddiffyn wrth i’r bêl adlamu oddi ar goes un o fechgyn y Sêr. Cipiodd Phil Furney y bêl oddi ar draed llonydd amddiffyn y Sêr a’i gosod yn y rhwyd heb unrhyw sialens. Syndod i bawb oedd gweld y dyfarnwr yn pwyntio at y llinell hanner gan adael i’r gôl sefyll.
Bu bron i’r Sêr ddod yn gyfartal ar ôl cynnig gwych gan yr eilydd Kevin Bulman, ac yna ergyd hirbell Arwel Jones ond arbedodd Steve Smith yn gampus.
Heb amheuaeth Aberteifi oedd yn haeddu’r fuddugoliaeth ond trueni eu bod wedi cipio’r 3 phwynt gyda’r fath gôl ddadleuol. Yn sicr ar sail y perfformiad hwn bydd tîm ifanc Sêr Dewi yn siŵr o sicrhau gwell canlyniadau wrth i’r tymor ddatblygu.
Anfonwyd yr adroddiad hwn i Golwg360.com gan John Jones.