Mae dynes 49 oed wedi marw o glefyd y llengfilwyr yng Nghymru, y trydydd person i farw ar ôl i nifer o achosion ddod i’r amlwg ym Mlaenau’r Cymoedd.

Fe fu farw’r ddynes yn yr ysbyty bnawn dydd Sul. Bu i ddau glaf arall, dyn 70 oed a dynes 64 oed, farw’r wythnos diwethaf.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw’n dal i ymchwilio i geisio dod o hyd i ffynhonnell y clefyd. Hyd yn hyn mae 19 o bobol yn yr ardal wedi eu heintio.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried bod unrhyw un sy’n dal y clefyd o fewn 12km bob ochor i’r A465 rhwng y Fenni a Llandarsi yn rhan o’r un gyfres o achosion.

Mae’r ymchwiliad wedi canolbwyntio ar saith o bobol sy’n gysylltiedig gyda Rhymni. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i bedwar o bobol yng Nghwm Cynon.

Mae gan yr wyth person arall sydd wedi eu heintio rhyw gysylltiad â’r ardal. Mae pob un o’r 19 sydd wedi eu heintio wedi gorfod mynd i’r ysbyty.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn ymchwilio i un achos arall posib o glefyd y llengfilwyr yn yr ardal.

Dadlau

Mae anghytundeb wedi codi tros y ffordd y mae’r awdurdodau’n rhoi gwybod amachosion o glefyd y llengfilwyr.

Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fe ddylen nhw fod yn rhoi mwy o wybodaeth am y bobol sy’n diodde’ o’r afiechyd – gan gynnwys lle y maen nhw’n byw a lle y maen nhw wedi cael eu trin.

Ond, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, does dim pwynt yn hynny gan nad oes modd dal clefyd y llengfilwyr trwy ei drosglwyddo o berson i berson.

Mae’r Ceidwadwr Andrew R T Davies wedi dweud wrth Radio Wales bod angen y wybodaeth ychwanegol er mwyn cysuro pobol am yr hyn sy’n digwydd.

“Does dim drwg mewn rhoi gwybod ym mha drefi y mae pobol ac ym mha ysbytai,” meddai.

Ar y llaw arall, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddai hynny’n gwneud dim ond peryglu preifatrwydd y cleifion heb unrhyw fudd i’r cyhoedd.