Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan mewn ras i geisio anfon llong robotaidd ar draws môr yr Iwerydd.

Dechreuodd llong Pinta, a greuwyd gan Dr Mark Neal a’i dîm o adran cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, ei thaith o Swydd Kerry yn Iwerddon ar ddydd Sadwrn, 11 Medi.

Maen nhw’n cymryd rhan yn yr Her Microtransat ac yn cystadlu yn erbyn sawl tîm arall.

Nod yr her yw ceisio datblygu robot fydd yn gallu croesi Môr yr Iwerydd yn hollol annibynnol drwy ddefnyddio grym y gwynt yn unig, am y tro cyntaf erioed.

Mae’r llinell derfyn ychydig i’r dwyrain o ynys Martinique yn y Caribî. Mae gwybodaeth yn cael ei anfon o’r Pinta drwy loeren bob awr, ac hyd yn hyn, mae’n dal i fynd.

Ond mae Dr Neal wedi dweud ei fod yn amau na fydd y robot yn symud ryw lawer dros y dyddiau nesaf oherwydd tywydd gwael.

“Ond mae’r gobeithion yn uchel a’r ysbryd yn y tîm yn dda,” meddai.

Petai’r llong yn llwyddo i oresgyn y tywydd gwael, mae disgwyl i’r daith gymryd o leiaf tri mis.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y wefan: http://www.microtransat.org/.

Cafodd Pinta ei henwi ar ôl un o longau Christopher Columbus a groesodd yr Atlantic yn 1492.