Mae targed 2015 ar gyfer trosi gwasanaethau radio i ddigidol yn ‘llawer rhy gynnar’, yn ôl adroddiad gan yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Yn ôl Grŵp Arbenigwyr Cwsmeriaid yr Adran, fe fydd angen sefydlu corff annibynnol i ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd os yw’r Llywodraeth am i bobol droi ar radio digidol yn wirfoddol.

Yn ôl y ddogfen ‘Prydain Ddigidol’, dylai trosi radio digidol ddechrau dwy flynedd ar ôl i nifer y gwrandawyr sy’n defnyddio gwasanaethau ddigidol gyrraedd 50%.

Ond mae adroddiad y GAC yn argymell newid y canran, gan ddweud na ddylai’r trosi digidol ddigwydd nes bod o leiaf 70% o wrandawyr yn defnyddio gwasanaethau radio digidol.

Cefnogaeth y defnyddwyr

Mae’r adroddiad yn canmol “pwyslais newydd” Jeremy Hunt, y Gweinidog Diwylliant, ar anghenion gwrandawyr radio, a’i benderfyniad i leihau’r pwyslais ar drosi i ddigidol yn 2015.

Dywedodd Jeremy Hunt y bydden nhw’n cwrdd â’r targed “os, ac mae’n os fawr, bydd defnyddwyr yn barod fe fyddwn ni’n cefnogi 2015 fel amser i droi’n ddigidol”.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau fod yna ymgyrch wybodaeth gyflawn a chyhoeddus yn cael ei chynnal,” meddai llefarydd ar ran y Grŵp Arbenigwyr Cwsmeriaid.

“Dylai’r manteision ar gyfer defnyddwyr fod yn eglur cyn i’r Llywodraeth benderfynu trosi i ddigidol.”