Mae dyn o Drefor yng Ngwynedd yn disgwyl ymweliad gan feilïaid i gymryd eiddo o’i dŷ ar ôl iddo wrthod talu ei drwydded teledu fel protest yn erbyn Radio Cymru.
Cafodd y ddirwy gan Lys Ynadon Caernarfon oherwydd ei safiad fel rhan o ymgyrch yn erbyn Seisnigeiddio Radio Cymru, meddai Cylch yr Iaith heddiw.
Yn ôl Cylch yr Iaith, mae wedi cael gwybod gan gwmni beilïaid Excel eu bod nhw wedi derbyn gwarant i gymryd eiddo gwerth hyd at £1,000.
“Protest yn erbyn Saesnigrwydd Radio Cymru yw’r brotest hon,” meddai Geraint Jones o Drefor wrth Golwg360.
“Dydi o ddim yn beth braf pan rydach chi’n gwybod fod pobol am ddod a chymryd eich pethau. Ond, fedra’i wneud dim byd am hynny ond diodde’r peth – a’i ystyried yn fraint cael dioddef dros yr iaith.”
‘Neb yn cynnig cymorth’
Yn ôl Geraint Jones o Drefor nid yw wedi cael cymorth gan “neb mewn awdurdod” ynglŷn a’r mater.
“Maen nhw’n golchi’u dwylo o’r cyfan,” meddai cyn dweud nad yw wedi clywed gan Hywel Williams nac Alun Ffred Jones er ei fod wedi cysylltu gyda nhw.
Mae Geraint Jones yn aelod o Gylch yr Iaith sy’n un o’r mudiadau dan arweiniad Pwyllgor yr Ymgyrch Ddarlledu sy’n protestio yn erbyn y defnydd o’r Saesneg ar Radio Cymru.
Maen nhw’n galw ar BBC Cymru i sefydlu Fforwm Darlledu Cymraeg er mwyn rhoi llais uniongyrchol i’r gynulleidfa Gymraeg.
“Sefydlwyd Radio Cymru yn orsaf gwbwl Gymraeg yn 1977 dan arweiniad y diweddar Owen Edwards a Meirion Edwards,” meddai Ieuan Wyn, Ysgrifennydd Cylch yr Iaith.
“Er 1995 mae’r penaethiaid wedi bod yn gweithredu polisi sy’n tanseilio’r gwasanaeth trwy ddefnyddio Saesneg a hyrwyddo’r diwylliant poblogaidd Eingl-Americanaidd trwy ddarlledu caneuon Saesneg yn gyson.”
Mae Geraint Jones yn gyn-brifathro Ysgol Gynradd Bro’r Eifl, Trefor ac yn arweinydd Seindorf Arian Trefor.
Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac yn 1966 ef oedd y cyntaf i fynd i’r carchar dros yr iaith.