Mae elusen Cymdeithas Cynllunio Teuluoedd wedi lansio ymgyrch heddiw i dynnu sylw pobol dros eu 50 oed at heintiau rhywiol.

Mae’r elusen yn dweud bod ymgyrchoedd o’r fath fel arfer yn targedu pobol ifanc, ond bod mwy a mwy o bobol hŷn yn cysgu gyda sawl partner.

Fe gafodd bron i 13,000 o ddynion a merched dros 45 blwydd oed wybod eu bod yn dioddef o haint a gafodd ei drosglwyddo’n rhywiol yn 2009.

Roedd hynny ddwywaith cymaint â’r un nifer yn y flwyddyn 2000.

Canlyn

“Yn amlach na pheidio mae yna gred mai dim ond ar bobol ifanc mae heintiau sy’n cael eu trosglwyddo’n rhywiol yn effeithio,” meddai Dr Jane Wilkinson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

“Ond dyw hynny ddim yn wir erbyn hyn, ac rydym ni’n croesawu ymgyrch yr elusen er mwyn gwella ymwybyddiaeth ymysg pobol sydd dros eu 50 oed.”

Yn ôl yr elusen, mae mwy o bobol dros eu 50 yn gadael perthynas hirdymor ac yn dechrau canlyn gyda nifer o bartneriaid gwahanol.

“Ychydig iawn o wybodaeth sydd am iechyd rhywiol a gwasanaethau ar gyfer bobl dros 50 oed,” meddai Julie Bentley, Prif Weithredwr y Gymdeithas Cynllunio Teuluoedd.