Fe fydd Cyril yr Alarch yn ymuno â Mistar Urdd ar gyfer taith o amgylch dros 40 o ysgolion Abertawe a’r fro er mwyn croesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011 i’r ardal.

Fe fydd mascot Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn cychwyn ar ei daith gyda’r Urdd yr wythnos hon, gan ddechrau yn ysgolion cynradd y ddinas.

Bwriad yr uniad rhwng Cyril the Alarch a Mistar Urdd yw hyrwyddo’r Eisteddfod fydd yn cael ei chynnal yn Felindre rhwng Mai 30ain aMehefin 4ydd y flwyddyn nesa’, gan sôn wrth y plant am yr adloniant fydd yn eu disgwyl ar y maes.


Y ddwy ochr yn croesawu’r cydweithio

“Mae’r daith ysgolion yn ffordd wych o gychwyn ein hymgyrch ac fe hoffwn ddiolch i Garej Sinclair, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Menter Abertawe am eu cefnogaeth hael,” meddai Helen Phillips, Swyddog Datblygu’r Urdd yng Ngorllewin Morgannwg.

“Mae Cyril bob amser yn edrych am ffrindiau newydd ac mae’n ymddangos ei fod wedi ffeindio ffrind mynwesol yn Mistar Urdd,” meddai Andrea Morris, Rheolwr Busnes Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn brofiad gwych i blant a phobol ifanc yr ardal ac rydym yn falch iawn o gael cynnig help llaw i groesawu’r digwyddiad hynod yma i Abertawe a’r fro.”