Mae bwyta mwy o brocoli a’r planhigyn llyriad yn help wrth atal datblygu ail bwl o afiechyd Crohn’s, yn ôl ymchwil newydd.

Mae gwyddonwyr wedi nodi bod ffeibr mewn llyriad a brocoli yn ei gwneud hi rhwng 45% ac 82% yn anos i drosglwyddo bacteria E.coli i gelloedd y coluddyn.

Roedd yr ymchwil diweddara’ hwn yn profi ystod eang o ffeibr toddadwy, a’r effaith mae pob un yn ei gael ar yr afiechyd Crohn’s. Dyma’r ffeibr sy’n dod allan o lysiau ar ôl iddyn nhw gael eu berwi mewn dŵr.

Doedd y ffeibr mewn cennin ac afalau ddim yn lleihau trosglwyddiad bacteria.

Y cam nesa’

“Y peth diddorol am yr ymchwil yw ei fod yn dangos am y tro cynta’ bod ffeibr toddadwy planhigion yn gallu rhwystro bacteria rhag mynd trwodd i leinin y coluddyn,” meddai’r
Athro Jonathan Rhodes o Brifysgol Lerpwl a oedd wedi gweithio ar yr astudiaeth.

“Y cam nesa’ fydd cynnal treialon clinigol ar 76 o ddioddefwyr Crohn’s, ond mi allai wneud synnwyr i ddioddefwyr Crohn’s gymryd ychwanegion o’r ffeibrau yma er mwyn atal ail bwl o’r afiechyd.”

Beth yw Afiechyd Crohn’s?

Mae afiechyd Crohn’s yn gyflwr hir-dymor sy’n achosi llid yn leinin y sustem dreulio bwyd. Mae sumtomau’n cynnwys rhydd a phoenau yn y stumog.

Mae tua 90,000 o bobl yn diodde’ o’r afiechyd yn y Deyrnas Unedig.

Mae nifer yr achosion ar gynnydd ar draws y byd, ac mae’r afiechyd fwya’ cyffredin yng ngwledydd datblygedig y Gorllewin, lle mae’r deiet yn isel mewn ffeibr ac yn uchel mewn bwydydd sydd wedi’u prosesu.
 

Pwy sy’n diodde’?

Mae’r afiechyd yn brin gyda saith person ym mhob 100,000 yn cael eu heffeithio yn y Deyrnas Unedig. Mae tua saith achos newydd yn cael eu canfod bob blwyddyn.

Mae’r afiechyd yn effeithio menywod yn fwy na dynion. Mae’n gallu effeithio pobol o bob oedran, ond mae’r mwyafrif yn dechrau datblygu’r cyflwr rhwng 16 a 30 oed.

Does dim gwellhad o’r afiechyd ar hyn o bryd, ond mae meddyginiaeth ar gael sy’n cael ei ddefnyddio i drin y sumtomau a’u hatal rhag dychwelyd.

Mae tua 80% o bobol gyda’r afiechyd angen llawdriniaeth i leddfu’r symptomau, i drwsio niwed i’r sustem dreulio, a thrin unrhyw gymhlethdodau.