Cynyddu y mae’r dyfalu y bydd capten Cymru’n dod i chwarae pêl-droed i Gaerdydd.
Mae’r rhan fwya’ o’r papurau heddiw’n gytûn y bydd Craig Bellamy’n dod i’r brifddinas ar fenthyg ar ôl ffraeo gyda’r rheolwr yn Manchester City.
Dim ond un sy’n awgrymu y gallai’r blaenwr fod yn ymuno â Spurs am £2 filiwn; mae’r lleill yn awgrymu y bydd yn mynd i Gaerdydd am tua chwe mis.
Mae Bellamy wedi dweud yn gyson y byddai “wrth ei fodd” yn helpu Caerdydd i geisio cyrraedd yr Uwch Gynghrair.
Mae rheolwr Manchester City, Roberto Mancini, wedi gwneud yn glir nad oes unrhyw ddyfodol i’r Cymro yn Eastlands.