Fe ddaeth yn amlwg fod y rhan fwya’ o’r Iraciaid a gyhuddwyd o ladd milwr ifanc o Gymru wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Fe gafodd tad Tom Keys o Lanuwchllyn lythyr yn dweud nad oedd digon o dystiolaeth yn erbyn pump o ddynion ond bod dau dan amheuaeth o hyd.
Roedd y dyn 20 oed yn un o chwech o heddlu milwrol – y Capiau Coch – a gafodd eu lladd ym mis Mehefin 2003 pan ruthrodd cannoedd o bobol ar swyddfa heddlu.
Roedd hynny’n fuan wedi dechrau’r rhyfel yn Irac ac, ers hynny, mae teuluoedd y chwech wedi bod yn ymgyrchu am gyfiawnder.
Yr wythnos ddiwetha’ y cawson nhw lythyr gan Weinidog y Lluoedd Arfog, Nick Harvey, yn dweud fod pump wedi eu rhyddhau ond bod y Llywodraeth yn benderfynol y bydd dau arall yn cael eu herlyn.