Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i’r ymladd yn Nolgellau yn oriau mân bore Sadwrn ac wedi apelio am dystion.

Y disgwyl yw y bydd dyn 21 oed yn cael triniaeth i anafiadau drwg i’w wyneb yn Ysbyty Treforys heddiw.

Fe gafodd ei gludo yno o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ond mae dau ddyn arall wedi eu gollwng bellach o Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Fe gafodd wyth o bobol eu harestio ar ôl y digwyddiad tua 2.00 y bore ger Canolfan Hamdden Glan Wnion yn y dref – maen nhw i gyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol erbyn hyn.

Y gred yw mai hen elyniaeth rhwng dwy gang o bobol ifanc oedd yn gyfrifol am yr helynt. Roedd y rhai a gafodd eu harestio’n amrywio rhwng 15 a 21 oed.