Fel rhan o wyliau byr i ddangos cefnogaeth i ardaloedd sydd wedi dioddef yn sgil y gollyngiad olew, mae’r Arlywydd Barack Obama a’i deulu wedi bod yn mwynhau eu hunain ar drip cwch yng Ngwlff Mecsico heddiw.

Bu Barack a Michelle Obama a’u merch Sasha’n gwylio haid o lamhidyddion o fwrdd eu cwch yn nyfroedd tawel bae St Andrews ger eu gwesty yn Panama City Beach.

Roedd y Tŷ Gwyn wedi trefnu’r trip i estynwlad Florida – y darn tenau o’r dalaith sy’n ymestyn i mewn i Gwlff Mecsico – ar ôl i Obama gael ei feirniadu nad oedd yn dilyn ei gyngor ei hun ar i Americanwyr fynd ar wyliau i’r Gwlff. Roedd eisoes wedi bod ar wyliau yng Ngogledd Carolina yn y gwanwyn, ym Maine yn gynharach yr haf a bydd yn mynd i Martha’s Vineyard ger arfordir Massachussets yn ddiweddarach y mis yma.

Er mai dim ond 16 o’r 180 o draethau yn rhan orllewinol estynwlad Florida sydd wedi cael eu heffeithio gan y gollyngiad olew, yr ofnau yw y bydd y lluniau o olew ar wyneb y môr wedi cadw llawer o ddarpar ymwelwyr draw.

Fel arwydd i ddangos bod y dŵr a’r traethau’n lân, aeth Obama â Sasha i nofio ym mae St Andrews ddoe.

“Mae traethau ar hyd arfordir y Gwlff yn lân, maen nhw’n ddiogel, ac maen nhw’n agored am fusnes,” meddai’r Arlywydd.

Llun: Yr Arlywydd Barack Obama, ei wraig Michelle a’u merch Sasha yn gwylio llamhidydd oddi ar gwch ger Panama City Beach, Florida heddiw (AP Photo/Susan Walsh)