Mae cyn-filwyr, gwleidyddion a’r teulu brenhinol ymysg y rhai sydd wedi bod yn nodi diwrnod VJ heddiw – 65 mlynedd union wedi’r fuddugolaeth dros Japan a ddiweddodd yr Ail Ryfel Byd.

Ymunodd y Prif Weinidog David Cameron, Tywysog Cymru a Duges Cernyw â chynrychiolwyr o’r fyddin, y llynges a’r llu awyr a chyn-filwyr mewn gwasanaeth ger y gofeb ryfel yn Whitehall y prynhawn yma.

Daeth yr hen filwyr, llawer ohonyn nhw’n gwisgo’u medalau, ynghyd mewn aduniad â’u cyfoedion ac i gydnabod y miloedd na ddaeth yn ôl.

Bwriad y gwasanaeth oedd cydnabod ymdrechion y cannoedd o filoedd a fu’n brwydro o dan yr amodau creulonaf, a thalu teyrnged i’r 30,000 o filwyr Prydain a gafodd eu lladd, gan gynnwys tua 12,500 a fu farw tra oedden nhw’n garcharorion rhyfel.

Cafodd y gwasanaeth ei drefnu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a chymdeithas y Burma Star.

Ildio

Roedd Japan wedi ildio’n derfynol ar 14 Awst 1945 yn dilyn gollwng y bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki a goresgyniad y Sofietiaid ar Manchuria.

Cafodd y diwrnod canlynol, dydd Mercher 15 Awst 1945, ei ddathlu fel diwrnod VJ, sef y fuddugolaeth dros Japan.

Fe wnaeth Japan ildio’n ffurfiol ar yr ail o Fedi 1945 mewn seremoni ar fwrdd yr USS Missouri ym mae Tokyo.

Llun: Y Prif Weinidog David Cameron yn gosod torch ar y gofeb ryfel yn Whitehall yn Llundain i nodi 65 mlwyddiant diwrnod y fuddugoliaeth dros Japan (Lewis Whyld/Gwifren PA)