Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon wedi galw ar lywodraethau’r byd roi mwy o gymorth i Pacistan.

Wrth ymweld â’r wlad heddiw, dywedodd Ban Ki-moon fod angen i wledydd eraill ymateb yn gyflymach i’r argyfwng a achoswyd gan y llifogydd yn y wlad.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cyfrannu dros £40 miliwn at yr ymdrechion i liniaru’r argyfwng, ond mae angen brys am fwy o fwyd, dŵr yfed, meddyginiaeth a chysgod, a dywedodd Ban Ki-moon y dylai gwledydd eraill wneud mwy i helpu.

“Dw i yma i bwyso ar y gymuned fyd-eang i gyflymu eu cymorth i bobl Pacistan,” meddai.

Daw ei neges ar ôl i’r pryderon gynyddu am epidemig o golera yn y wlad ar ôl i’r achos cyntaf gael ei gadarnhau ddoe. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd gallai hyd at 300,000 o bobl gael eu taro gan yr haint os na fydd camau’n cael ei gymryd i’w atal rhag lledaenu.

Yn ystod ei ymweliad, fe fu Ban Ki-moon yn gweld drosto’i hun yr ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan y llifogydd.

Pryderon elusennau

Mae galwad yr Ysgrifennydd Cyffredinol yn ategu pryderon elusennau dyngarol nad oes digon o help yn dod i’r wlad.

“Mae’r sefyllfa’n dirywio’n gyflym,” meddai Neva Khan, cyfarwyddwr Oxfam ym Mhacistan.

“Mae rhannau helaeth o’r wlad yn dal o dan ddŵr, ac rydym yn hynod o bryderus ynghylch y risg o glefydau fel malaria, colera a thwymyn dengue.

“Mae ar gymunedau angen dybryd am ddŵr glân a thai bach, ond nid yw’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd ond cyfran fach o’r hyn sydd ei angen. Gobeithiwn y bydd ymweliad Ban Ki-moon â Phacistan yn ysbrydoli gwledydd cyfoethoca’r byd i ymateb yn gyflymach i’r argyfwng enbyd yma.”

Mae 1,600 eisoes wedi eu lladd a hyd at 20 miliwn wedi cael eu digartrefu gan y llifogydd.

Llun: Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, ar y chwith, yn siarad gyda Phrif Weinidog Pacistan, Yousuf Raza Gilani yn ei dŷ yn Islamabad heddiw (AP Photo/B.K. Bangash)