Cymru 5 – 1 Lwcsembwrg
Bydd rheolwr Cymru, John Toshack yn ddigon hapus ei fyd wedi i’w dîm guro Lwcsembwrg yn gyfforddus ar Barc y Scarlets heno.
Hon oedd gêm gyfeillgar olaf Cymru cyn iddynt ddechrau eu hymgyrch i geisio ennill lle yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop yn 2012.
Gyda llu o anafiadau i chwaraewyr pwysig, tîm digon arbrofol a ddechreuodd y gêm i’r Cymry gydag ymosodwr Millwall, Steve Morison yn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.
Hanner cyntaf siomedig
Siomedig ar y cyfan oedd yr hanner cyntaf i’r tîm cartref gyda’r ddau dîm yn gyfartal am yr hanner awr gyntaf.
Dechreuodd Cymru fygwth wedi 30 munud a daeth eu gwobr gyda gôl i David Cotterill wedi 35 munud – canlyniad gwaith da gan Bellamy ac yna croesiad perffaith Earnshaw i’r sgoriwr yn y postyn pellaf.
Roedd y dorf yn disgwyl i’r llifddorau agor, ond nid felly y bu gan i’r ymwelwyr ddod â’r gêm yn gyfartal ddwy funud cyn yr hanner. Joel Kitenge yn sgorio beth oedd dim ond ail gôl Lwcsembwrg yn erbyn Cymru erioed.
Eilyddion yn rhoi stamp ar y gêm
Daeth newidiadau i Gymru ar yr hanner ac fe gafodd dau o’r rheiny, David Vaughan ac Andy King effaith ar y gêm yn syth.
Dechreuodd Vaughan reoli canol y cae o’r cychwyn cyntaf – yn union fel y mae wedi gwneud i’w glwb, Blackpool dros y tymor diwethaf. Arweiniodd hynny at ddod a Bellamy’n fwyfwy i mewn i’r gêm a dyna arweiniodd at ail gôl y Cymru.
Dechreuodd Vaughan symudiad yng nghanol y cae gan ryddhau ei gapten ar y chwith. Curodd Bellamy un dyn, a thwyllo un arall i’w faglu yn y blwch cosbi gan ennill cic o’r smotyn. Joe Ledley o Celtic roliodd y bêl yn hyderus i gornel isaf y rhwyd gan yrru’r gôl geidwad i’r cyfeiriad anghywir.
Daeth Craig Morgan yn agos gyda pheniad o gic cornel wedi 50 munud, cyn i’r cochion sgorio eu trydedd gôl – Andy King yn penio i’r rhwyd am ei gôl gyntaf i’w wlad.
Roedd Cymru’n llwyr reoli erbyn hyn a Bellamy’n beryg bywyd ar yr asgell chwith, tra bod Cotterill hefyd yn fygythiad ar y dde. Daeth Ashley Williams yn agos wedi croesiad gan Cotterill cyn i Ledley gyfuno â Bellamy ond i weld ei ergyd yn mynd trwch blewyn heibio i’r postyn.
Roedd y bedwaredd gôl yn anochel a daeth honno gan yr amddiffynnwr Williams wedi 78 munud. Daeth y croesiad gan Bellamy o’r asgell dde y tro yma, a peniodd Morison yn ôl ar draws y gôl i roi cyfle hawdd i Williams sgorio ei gôl gyntaf dros Gymru.
Bellamy ei hun gwblhaodd y sgorio gyda gôl haeddiannol ar ôl 82 munud – ei ddeunawfed dros ei wlad.
Capten Cymru oedd wedi hawlio’r penawdau cyn y gêm am y rhesymau anghywir, ac yntau oedd y seren ar y noson.
“Fe wnes i fwynhau’r gêm yn fawr ac roedd yn dda i gael rhediad” meddai Bellamy wrth siarad gyda theledu Sky wedi’r chwiban olaf. “Roedd yn bwysig i gael buddugoliaeth dda cyn y gemau rhagbrofol. Bydd rhai yn dweud mai ‘dim ond Lwcsembwrg oedden nhw, ond roedd hon yn gêm galed heno.”
Pwy oedd y sêr i Gymru? Clichiwch yma i weld ein asesiad o’r perfformiadau unigol.
Lluniau: David Jones / Gwifren PA