Mae dyn sy’n byw ger y Bala a gollodd ei fab yn Rhyfel Irac wedi galw ar Tony Blair i dalu am ei ddiogelwch ei hun a rhoi elw ei lyfrau tuag at Help for Heroes.
Mae ymgyrchwyr yn erbyn Rhyfel Irac wedi dweud y byddan nhw’n protestio tu allan i siop lyfrau Waterstones ar ôl i’r cyn Brif Weinidog Tony Blair gadarnhau y bydd o’n arwyddo copïau o’i lyfr yno.
Fe fydd Tony Blair yn arwyddo copiau o A Journey yn Waterstones Picadilly yn Llundain fis nesaf. Cafodd ei dalu £4.6 miliwn o flaen llaw am ysgrifennu’r llyfr.
Mae disgwyl mesurau diogelwch tynn yn y siop chwe llawr, y siop lyfrau fwyaf yn Ewrop, ac mae disgwyl i gannoedd o bobol ddod i’r lansiad.
“Mae o’n gwneud elw mawr ar gefn farwolaethau pobol eraill,” meddai Reg Keys o Lanuwchllyn.
“Does ganddo ddim cywilydd. Mae ei benderfyniadau wedi arwain at farwolaethau cannoedd o filwyr a miloedd o ddinasyddion.
“ Mae o’n sarhaus ei fod o’n dangos ei hun er gwaethaf y difrod a thorr-calon y mae o wedi ei achosi. Pam nad ydy o’n gallu llithro o’r golwg? Dydi o ddim angen yr arian.
“Gyda’r holl arian mae o’n ei wneud o hyn fe ddylai dalu am ei ddiogelwch ei hun ac fe fyddai’n neis petai o’n rhoi’r arian tuag at elusen Help for Heroes.”
Ymgyrchwyr
Mae Waterstones yn wynebu ymgyrch gan y protestwyr sydd wedi dweud y byddan nhw’n picedu’r arwyddo ac wedi galw am foicotio’r siop llyfrau.
Maen nhw wedi addo ceisio arestio Tony Blair am “droseddau rhyfel”.
Fe fydd cwsmeriaid yn gorfod gadael eu ffônau symudol ac eiddo personol arall ar y ffordd i mewn. Ni fydd neb yn cael tynnu llun o Tony Blair a fydd o ddim yn ysgrifennu neges bersonol yn y llyfr. Fe fydd Tony Blair hefyd yn cael ei amddiffyn gan ei dîm diogelwch personol o Scotland Yard.
“Rydym ni yn erbyn hyn ac fe fyddwn ni’n gofyn i Waterstones ganslo fe. Fe fyddwn ni yno yn ein cannoedd,” meddai’r ymgyrchydd Andrew Burgin.
“Fe fyddwn ni’n galw ar bobol i foicotio Waterstones yn gyfan gwbl a chau’r siopau i lawr os ydi’r digwyddiad yma’n mynd yn ei flaen.
“Mae’n warthus bod Waterstones yn ymwneud a hyn.”
Dywedodd Andrew Burgin ei fod o’n cynnig £30,000 i unrhyw un all arestio Tony Blair.
Mae copiau clawr caled o A Journey ar gael ar 1 Medi ac fe fydd hi’n bosib eu harchebu nhw ar-lein am £12.50.
Fe fydd llyfr sain wedi ei recordio gan Tony Blair hefyd ar gael.