Mae ymosodwr newydd Cymru, Steve Morison wedi dweud ei fod yn awyddus i chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn Luxembourg heno.

Mae disgwyl i chwaraewr Millwall ennill ei gap cyntaf yn y gêm gyfeillgar ar Barc y Scarlets heno.

Roedd Morison yn chwarae i Stevenage yn yr Uwch Gynghrair Blue Square tan 2009 cyn ymuno gyda Millwall y tymor diwethaf, gan sgorio 20 gôl.

“Roeddwn ni’n chwarae yn y Blue Square flwyddyn ‘nôl felly roedd chwarae ar y lefel rhyngwladol ymhell o fy meddwl,” meddai Morison.

“Yna roeddwn i’n canolbwyntio ar chwarae yng Nghynghrair Un a helpu Millwall i ennill dyrchafiad.

“Roeddwn i wedi cysylltu gyda Chymru i ddweud ei fod o’n bosib fy mod i’n gymwys i chwarae, ac roedden nhw hefyd yn ymwybodol o hynny.

“Rwy’n well chwaraewr erbyn hyn na blwyddyn ‘nôl ac rwy’n gobeithio gallaf fynd ‘mlaen i ennill sawl cap gyda Chymru.”