Mae Caerdydd wedi osgoi gorchymyn arall i ddirwyn y clwb i ben yn yr Uchel Lys ar ôl talu eu dyled i’r adran Cyllid a Thollau.

Roedd yr Adar Gleision yn wynebu’r gorchymyn oherwydd oedi wrth dalu eu dyled £1.3m i’r adran Cyllid a Thollau.

Ond maen nhw wedi talu’r ddyled erbyn hyn ac fe gafodd y ddeiseb ei gwrthod gan yr adran Cyllid a Thollau.

Mae Caerdydd wedi bod o dan embargo trosglwyddo am y rhan fwyaf o’r haf oherwydd eu dyledion, ond fe gafodd yr embargo ei godi ddydd Gwener diwethaf.

Mae cadeirydd y clwb, Dato Chan Tien Ghee wedi sicrhau’r rheolwr, chwaraewyr a‘r cefnogwyr bod perchnogion newydd y clwb yno am yr hir dymor wrth iddynt geisio torri dyled o tua £30m.