Fe fydd ficer o Gymru’n cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl cyfadde’ iddo ymosod yn rhywiol ar ferch ifanc.

Mae Richard Hart o Bugeildy ym Mhowys eisoes yn y carchar am fod â miloedd o luniau o bornograffi plant yn ei feddiant.

Ychydig cyn yr oedd i fod i gael ei ryddhau, fe gafodd ei gyhuddo o’r troseddau pellach, sydd hefyd yn cynnwys annog plentyn i gyflawni gweithred aflednais.

Roedd y clerigwr 60 oed, sy’n dad i bump o blant ac a oedd yn gyfrifol am bedwar plwyf rhwng Trefyclo a’r Drenewydd, wedi pledio’n ddieuog i chwe throsedd arall ac mae’r rheiny wedi eu cadw ar y ffeil.

Roedd wedi cam-drin y ferch ysgol am gyfnod a ddechreuodd ym mis Ebrill 2000 ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr.

Yn yr achos cynharach, fe ddatgelodd yr heddlu fod ganddo 57,000 o luniau pornograffig o blant ac roedd yn edrych arnyn nhw gyda’i wraig.