Fe fydd y corff newydd sy’n cadw llygad ar ffigurau ariannol y Llywodraeth yn gostwng y disgwyl am dwf economaidd.

Lle’r oedd y Llywodraeth Lafur ddiwetha’ wedi proffwydo twf o 3.25% yn ystod 2011, fe fydd y Swyddfa tros Gyfrifoldeb Cyllidol yn torri’r ffigwr i 2.5%.

O dan arweiniad y cyn was sifil, Syr Alan Budd, mae hefyd yn debyg o ddarogan twf is yn ystod y blynyddoedd wedyn.

Dyw’r ffigurau heddiw ddim yn ystyried effaith gweithredu gan y Llywodraeth ac fe fyddan nhw’n cael eu hasesu eto ar ôl y Gyllideb yr wythnos nesa’.

Y Gyllideb

Fe alla’r gostyngiad mewn twf economaidd arwain at gynyddu’r diffyg mewn gwario cyhoeddus a rhoi mwy o reswm eto i’r Canghellor dorri gwario.

Ac, er bod benthyca wedi bod rhywfaint yn llai na’r disgwyl yn ystod y misoedd diwetha’, mae’r Swyddfa’n debyg o ddweud y bydd yn uwch na’r disgwyl yn y blynyddoedd nesa’ – os na fydd y Llywodraeth yn gweithredu.

Y disgwyl yw y bydd George Osborne yn cyhoeddi rhai o’r mesurau caleta’ o fewn cof, gyda chynnydd hefyd mewn trethi fel y Dreth Enillion Cyfalaf – capital gains – a Threth ar Werth.

Y TUC’n rhybuddio

Mae cyngres yr undebau llafur, y TUC, eisoes wedi rhybuddio yn erbyn codi’r dreth honno, gan ddweud y byddai’n taro pobol dlotach yn galetach na neb arall.

Mae’r 20% tlota’ yn gwario dwywaith mwy o’u harian gwario ar Dreth ar Werth nag y mae’r 20% cyfoethoca’.

Yn ystod y dyddiau nesa’, fe fydd nifer o ystadegau pwysig yn cael eu cyhoeddi, gan gynnwys y newyddion diweddara’ am chwyddiant, diweithdra a benthyca cyhoeddus.

Nos Fercher, fe fydd George Osborne yn rhoi ei araith gynta’ yn y Mansion House yn y Ddinas yn Llundain a’r disgwyl yw y bydd yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Fanc Lloegr i atal argyfyngau ariannol yn y dyfodol ac i ymateb iddyn nhw.

Angen rhewi cyflogau, meddai Siambrau Masnach

Wrth i grwpiau a chyrff gwahanol geisio rhoi pwysau ar y Canghellor, mae Siambrau Masnach gwledydd Prydain wedi galw am rewi cyflogau’r sector cyhoeddus am ddwy flynedd.

Maen nhw hefyd yn dweud bod eisiau cael gwared ar y sicrwydd absoliwt na fydd gwario ar iechyd yn cael ei dorri. Mae hynny’n cynyddu’r pwysau ar wario mewn meysydd eraill, medden nhw.

Llun: Y Canghellor, George Osborne