0Fe fydd yna fwy o bwysau i rannu Gwlad Belg yn ddwy ar ôl i blaid annibyniaeth ennill tir yn ardal Fflandrys.
Fe aeth Cynghrair Newydd Fflandrys o 19 sedd i 27 yn yr Etholiad Cyffredinol ddoe gan gryfhau’r peryg o rwyg terfynol rhwng ardaloedd Ffrengig y wlad a’r ardaloedd Fflemaidd lle mae pobol yn siarad Iseldireg.
Dim ond siaradwyr Iseldireg sy’n cael eu cynrychioli gan y Gynghrair, tra bod pleidiau eraill yn cynrychioli’r ddwy gymuned.
Mae’r Gynghrair o blaid gwahanu llwyr ac mae disgwyl pwysau am ragor o hunanlywodraeth i Fflandrys mewn meysydd allweddol fel iechyd, cyfiawnder a budd-daliadau.
Fe allai hynny fod yn dyngedfennol gan fod diweithdra a thlodi’n uwch yn ardaloedd Ffrengig Wallonia yn y De o gymharu â Fflandrys yn y Gogledd.
Trafod
Er hynny, pe bai arweinydd y Gynghrair, Bart de Wever, yn dod yn Brif Weinidog fe fyddai’n rhaid iddo drafod a chyfaddawdu gyda phleidiau eraill.
Yn Wallonia, y blaid Lafur sosialaidd oedd fwya’ ar ei hennill ac mae ei harweinydd yn dweud y bydd rhaid trafod rhagor o hunanlywodraeth.
Fe allai gymryd amser hir i greu Llywodraeth ac mae sefyllfa’r brifddinas, Brwsel, hefyd yn gymhleth, gan fod ardaloedd cymysg eu hiaith yno.
Dadl am ffiniau ieithyddol yno a arweiniodd at yr etholiad.
Llun; Bart de Wever, arweinydd Cynghrair Newydd Fflandrys (Luc van Braekel CCA2.0)