Fe allai Cyngor Conwy fod yn cau mwy na chwarter ei hysgolion cynradd o fewn y blynyddoedd nesa’.

Mae’r Cyngor Sir wedi cyhoeddi cynlluniau i gau ac uno ysgolion, sy’n cynnwys nifer o ysgolion pentre’ yn yr ardaloedd gwledig Cymraeg.

Yn y trefi, mae yna fwriad i uno ysgolion babanod ac ysgolion cynradd; yng nghefn gwlad, y bwriad yw crynhoi nifer o ysgolion mewn un adeilad.

Fe allai hynny arwain at gau ysgolion mewn pentrefi fel Capel Garmon, Dinmael, Llangwm ac Ysbyty Ifan.

Mae’r arolwg yn rhestru nifer o ardaloedd lle bydd adolygiad ar unwaith ac eraill a fydd yn cael eu hystyried o fewn y pum mlynedd nesa’.

Y dadleuon

Yn ôl y Cyngor, mae yna ormod o lefydd gwag yn ysgolion y sir, gyda gostyngiad o 1,000 o ddisgyblion rhwng 2005 a 2014.

Erbyn hynny, medden nhw, fe fydd 13 o’r ysgolion yn fwy na hanner gwag.

Maen nhw hefyd yn dadlau bod gwahaniaeth mawr yn y gost fesul disgybl – o fwy na £10,000 yr un yn yr ysgolion lleia’, i ychydig dan £3,000 y pen yn y rhai mwya’.

Ardaloedd yr arolwg

Dyma’r ardaloedd gwledig lle bydd cau ac uno ysgolion yn cael ei ystyried:

Dolgarrog, Rowen, Talybont
Llanrwst, Capel Garmon, Trefriw
Llangernyw a Llanfair Talhaiarn
Llansannan – Bro Aled a Rhydgaled
Penmachno, Pentrefoelas, Ysbyty Ifan
Capelulo, Pencae
Cerrigydrudion, Llangwm a Dinmael

Llun: Ysgol Porth-y-felin, Conwy (o glawr yr adroddiad)