Fe wnaeth tîm ifanc yr Almaen argraff fawr yn eu gem gyntaf wrth iddyn nhw chwalu Awstralia 4 – 0.

Fe fydd Awstralia yn siomedig gyda’u perfformiad ac fe gafodd eu chwaraewr gorau, Tim Cahill, ei ddanfon o’r cae ar ddechrau’r ail hanner.

Ond roedd yr Almaen eisoes dwy gôl ar y blaen erbyn hynny. Sgoriodd Lukas Podolski’r cyntaf gydag ergyd nerthol drwy fysedd gôl-geidwad Awstralia ar ôl wyth munud yn unig.

Roedd yr Almaen mewn rheolaeth yn gyfan gwbl ac un fuan ar ôl methu’r gôl o drwch blewyn fe sgoriodd Miroslav Klose gyda’i 11eg gôl mewn Cwpan y Byd.

Yn fuan yn yr ail hanner taclodd Tim Cahill yr Almaenwr Bastian Schweinsteiger yn galed ac fe gafodd gerdyn coch ychydig yn llym fan y dyfarnwr Marco Rodriguez.

Erbyn hyn roedd yr Almaen yn torri drwy amddiffyn Awstralia fel cyllyll drwy fenyn ac fe sgoriodd Thomas Mueller ar ôl 68 munud a Cacau tair munud yn ddiweddarach i selio’r fuddugoliaeth.