Mae trefnwyr Cwpan y Byd De Affrica yn ystyried gwahardd y vuvuzela – yr utgyrn plastig swnllyd sydd wedi bod yn drac sain i bob gêm hyd yn hyn.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi derbyn cwynion gan ddarlledwyr, chwaraewyr a chefnogwyr.

Mae’r sŵn yn debyg i rwnan miloedd o wenyn. Mae cefnogwyr De Affrica yn dweud bod y vuvuzela yn rhan o draddodiad pêl-droed y wlad.

Ond mae beirniaid yn dweud eu bod nhw’n rhy swnllyd, yn boddi canu a gweiddi cefnogwyr eraill, ac yn merwino’r glust.

Mae canolfannau siopa yn y wlad eisoes wedi gwahardd y vuvuzela a dywedodd trefnydd y gystadleuaeth Danny Jordaan ei fod o’n ystyried eu gwahardd nhw o’r gemau.

“Mae yna sail i’w gwahardd nhw, oes,” meddai wrth wefan chwaraeon y BBC. “Os ydyn nhw’n dechrau glanio ar y cae fe wnawn ni weithredu.

“R’yn ni wedi gofyn i bobol roi’r gorau i’w defnyddio nhw yn ystod yr anthemau cenedlaethol.”

Mae capten Ffrainc, Patrice Evra, wedi cwyno nad oedd o’n gallu clywed chwaraewyr eraill ar y cae oherwydd yr utgyrn, a hefyd eu bod nhw’n tarfu ar eu cwsg nhw gyda’r nos.