Mae Graham Henry wedi dweud y dylai rhanbarthau Cymru roi’r gorau i ddefnyddio chwaraewyr o Seland Newydd.

Roedd hyfforddwr y Crysau Duon yn ymateb i sylwadau hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wnaeth ddweud bod gormod o chwaraewyr o dramor yn rhanbarthau Cymru.

Dywedodd Gatland ei fod o’n teimlo mai Jerry Collins, Marty Holah, David Lyons a Xavier Rush sy’n gwneud y penderfyniadau tactegol ar y cae yn rhanbarthau Cymru ac felly nad oedd chwaraewyr Cymru yn gwybod sut oedd gwneud.

“Mae yna ffordd hawdd o drwsio hynny,” meddai Graham Henry. “Peidiwch â chynnig swyddi iddyn nhw.

“Gadewch nhw adref yn Seland Newydd, fe allen ni eu defnyddio nhw.”

Ychwanegodd Graham Henry ei fod o’n disgwyl gem anodd yn erbyn Cymru dydd Sadwrn, er i’r Crysau Duon chwalu Iwerddon 66-28 yn New Plymouth ddoe.

“Mae’n anodd dod o ochor arall y byd a chwarae gem mewn wythnos,” meddai. “Mae’n cymryd amser iddyn nhw setlo, ac fe wnaeth Iwerddon hynny yn yr ail hanner.

“Ond fe fydd Cymru yn gêm anoddach. Fe wnaeth Iwerddon chwythu eu hunain i fyny yn yr hanner cyntaf.”