Rhaid i Ewrop ddangos arweiniad rhyngwladol a chymryd camau llymach i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Dyna fydd neges yr Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Chris Huhne, i wledydd yr Undeb Ewropeaidd heddiw.
Bydd yn defnyddio’r trafodaethau cyntaf yn yr Undeb Ewropeaidd ers iddo gael ei benodi’n weinidog i wthio am fabwysiadu targed o leihad o 30% mewn allyriadau CO2 erbyn 2020.
Eisoes, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo i leihau allyriadau CO2 20% ebyn 2020 o’i gymharu â lefelau 1990 ac wedi addo cynyddu i 30% – os yw’r Unol Daleithiau a gwledydd mawr eraill yn gwneud yr un peth.
Mae astudiaeth ymarferoldeb newydd y Comisiwn yn dweud fod y gost o gyrraedd y targedau hyn wedi gostwng oherwydd y dirwasgiad economaidd ac oherwydd fod toriadau diwydiannol eisoes wedi cyflwyno toriadau CO2 o tua 10%.
Ond mae Comisiynydd Amgylcheddol yr UE, Connie Hedegaard, sy’n wynebu dadleuon o fewn y Comisiwn dros strategaeth, yn dweud nad yw’r amser yn iawn eto i Ewrop symud at darged o 30%. Mae’r CBI yn cytuno – ond mae Chris Huhne yn dweud y dylai Ewrop godi ei golygon a bod yn fwy uchelgeisiol.
“Byddaf yn defnyddio fy nghyfarfod cyntaf i amlygu cefnogaeth Llywodraeth y DU ar gyfer gweithredu uchelgeisiol yn Ewrop ar newid hinsawdd, gan gynnwys toriad o 30% yn allyriadau’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Chris Huhne.
“Gallwn roi Ewrop ar flaen y gad trwy fynd i’r afael â chyfleoedd economaidd carbon isel.”