Mae dyn 40 oed wedi ei arestio ac yn cael ei gwestiynu mewn cysylltiad â marwolaethau tair putain, dywedodd yr heddlu heddiw.

Daethpwyd o hyd i gorff yn yr Afon Aire, yn Shipley, Gorllewin Swydd Efrog, tua 2pm ddoe.

Dywedodd Heddlu Dwyrain Swydd Efrog bod dyn wedi ei arestio heddiw wedi ei amau o ladd Suzanne Blamires, 36 oed, o Allerton; Shelley Armitage, 31 oed, hefyd o Allerton; a Susan Rushworth, 43 oed, o ardal Manningham.

Doedd Suzanne Blamires heb gael ei gweld ers dydd Gwener, mae Shelley Armitage wedi bod ar goll ers dydd Llun 26 Ebrill, a chafodd Susan Rushworth ei gweld am y tro olaf ger ei chartref ar 22 Mehefin y llynedd.

Heddiw dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jawaid Akhtar, bod yr heddlu wedi cael mwy o amser i gwestiynu’r dyn 40 oed, a gafodd ei arestio ddydd Llun.

Dywedodd eu bod nhw’n credu mai dynes oedd y corff yn yr afon ac nad oedd hi wedi ei hadnabod eto.