Bydd clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn cyfarfod wythnos nesaf i drafod trefn gemau’r tymor nesaf.

Mae’r 12 clwb fydd yn cystadlu yn yr adran bellach wedi cael eu penderfynu, felly bydd y clybiau’n gallu dod i gytundeb ynglŷn â’r drefn gemau.

Mae bwrdd Uwch Gynghrair Cymru wedi cynnig cynnal cystadleuaeth 44 gêm, lle bydd clybiau’n wynebu ei gilydd bedair gwaith o fewn y tymor.

Ond does dim disgwyl i’r fformat yma gael ei ddefnyddio oherwydd y straen ar y carfanau yn ogystal â’r costau ychwanegol.

Opsiwn arall i’r gynghrair yw’r cynnig am dymor 22 gêm gyda chlybiau yn chwarae ei gilydd ddwywaith, yn ogystal ag ail gyflwyno’r Cwpan FAW Premier.

Ond fe fyddai ail gychwyn y gwpan, sy’n cynnwys clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn ogystal â’r clybiau Cymreig sy’n chwarae ym mhyramid Lloegr, yn ddibynnol ar Gaerdydd ac Abertawe’n cytuno i gymryd rhan.

Y trydydd opsiwn yw i’r clybiau chwarae ei gilydd dair gwaith mewn tymor – naill ai ddwywaith adref ac unwaith oddi cartref neu i’r gwrthwyneb – i greu tymor 33 gêm.

Y pedwerydd syniad yw cynnal rhaglen 22 gêm cyn rhannu’r gynghrair i ddwy gystadleuaeth a fyddai’n creu tymor 34 gêm.

Yn ôl y cynnig, byddai’r timau sy’n gyntaf i chweched ar ôl 22 gêm yn mynd ‘mlaen i gystadlu am y bencampwriaeth a cheisio ennill eu lle yn Ewrop.

Byddai’r chwe chlwb ar waelod y tabl yn brwydro i osgoi disgyn allan o Uwch Gynghrair Cymru. Byddai’r drefn yma’n debyg i fformatau Uwch Gynghreiriau’r Alban ac Iwerddon.

Bydd clybiau’n cwrdd i bleidleisio yng nghyfarfod blynyddol y gynghrair yn Llandudno ar 12 Mehefin.