Mae Llywodraeth San Steffan wedi datgelu faint o arfau niwclear sydd gan y wlad am y tro cyntaf, heddiw.

Cadarnhawyd mai 160 o arfau niwclear oedd gan Brydain, a dywedodd y Llywodraeth na fydden nhw’n cynyddu’r nifer dros 225.

Bydd adolygiad hefyd ynglŷn ag ym mha amgylchiadau y byddai’r arfau yn cael eu defnyddio.

‘Yr amser iawn’

Daeth y datganiad gan William Hague yn ystod ei araith gyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin fel yr Ysgrifennydd Tramor.

Ni fydd datgelu faint o arfau niwclear sydd gan Brydain yn fygythiad i ddiogelwch y wlad, meddai, ond mi fydd yn cynorthwyo i wella’r berthynas â gwledydd sydd ddim ag arfau o’r fath.

Dyma’r amser iawn i fod yn “fwy agored” ynglŷn â sefyllfa niwclear Prydain meddai, gan ddweud y bydd y Llywodraeth glymbleidiol yn cymryd rhan lawn yn y Gynhadledd Adolygu Cytundeb Atal Ymlediad Niwclear sy’n digwydd yn Efrog Newydd ar hyn o bryd.

Mae’r ymrwymiad, meddai, yn adlewyrchu cytundeb clymbleidiol y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae’r Unol Daleithiau a Ffrainc eisoes wedi datgelu faint o daflegrau niwclear sydd ganddyn nhw.