Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi cadarnhau eu bod nhw’n debygol o dorri swyddi er mwyn arbed arian.

Mae nhw hefyd yn awgrymu y gallai rhai o’r gwasanaethau y mae’r llyfrgell yn eu cynnig gael eu torri o ganlyniad i’r wasgfa ariannol.

Cadarnhaodd y Llyfrgell fod “cynnig diswyddiadau gwirfoddol, ochr yn ochr ag ymddeoliad cynnar gwirfoddol i staff, yn un elfen o becyn o arbedion posib” sydd yn cael ei drafod.

“Mae’n dilyn penderfyniad gan Fwrdd y Llyfrgell, ym mis Ebrill eleni, i gynnig ail gynllun ymddeol yn gynnar i’r staff,” meddai llefarydd.

“Mewn cyfnod o gyni economaidd, a chyda’r cyhoeddiad llywodraethol o’r toriadau difrifol mewn gwariant cyhoeddus,” meddai’r llefarydd, “mae’n rheidrwydd ar y Llyfrgell edrych ar bob opsiwn posib o ran arbed arian.

“Mi fydd hyn, yn anochel, yn esgor ar resymoli’r gwariant mewn rhai meysydd. Mi fydd hefyd yn golygu blaenoriaethu rhai adnoddau a gweithgaredd er mwyn sicrhau cynnal ein gwasanaethau craidd.

“Nid yw’r ystyriaethau hyn yn rai sydd yn unigryw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.”

‘Pryder’

Dywedodd swyddog sy’n cynrychioli undebau o fewn y Llyfrgell fod yna “bryder” am effaith unrhyw doriadau ar weithwyr.

Yn ôl Dafydd Pritchard, cadeirydd cyngor sy’n cynrychioli undebau PCS, Prospect a’r FDA yn y Llyfrgell, mae’r sefyllfa yn “aneglur” ar hyn o bryd.

Does dim manylion eto ynglŷn â faint o arian fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol flwyddyn nesaf, meddai.

Ond dywedodd mai gwaith pennaf yr undebau yw i “amddiffyn swyddi,” ac i gefnogi unrhyw weithwyr sy’n teimlo “ansicrwydd”.

Ychwanegodd fod “diogelu statws a diogelwch y Llyfrgell” hefyd yn bwysig.