Mae tri o glybiau Cymru fydd yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf wedi cytuno i chwarae eu gilydd mewn cystadleuaeth cyn cychwyn ar ei hymgyrchoedd dros yr haf.

Bydd Llanelli, Port Talbot a’r Seintiau Newydd yn chwarae eu gilydd rhwng 19 a 23 Mehefin.

Bydd y gystadleuaeth yn gyfle i’r timau cael ychydig o ymarfer chwarae ar ôl rhai wythnosau o wyliau.

“Mae’n fenter cydweithio wych rhwng y clybiau i sicrhau ein bod ni’n gwella ar ein ffitrwydd ar gyfer Ewrop, ble r’y ni’n aml yn cystadlu yn erbyn timau sydd yng nghanol eu tymor,” meddai rheolwr y Seintiau Newydd, Mike Davies wrth wefan Welsh Premier.

Bydd y Seintiau Newydd hefyd yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn pencampwyr Iwerddon, Linfield yn Park Hall ar 3 Gorffennaf.

Fe wrthododd Bangor y cyfle i ymuno yn y gystadleuaeth am nad ydyn nhw’n ymuno â chystadleuaeth Europa League tan 15 Gorffennaf.