Mae miloedd o bobol wedi mynd ar streic yng Ngwlad Groeg heddiw, am y tro cyntaf ers y protestio treisgar bythefnos yn ôl pan y bu tri o bobol farw.

Maen nhw wedi bod yn gorymdeithio ym mhrifddinas Athens, a’r ail ddinas, Thessaloniki, er mwyn protestio yn erbyn mesurau arbed arian y Llywodraeth sydd wedi golygu toriadau pensiwn a chyflogau, a chynnydd mewn trethi.

Roedd cyflwyno’r mesurau yn rhan o’r amod am dderbyn benthyciad o €110 biliwn dros dair blynedd gan wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, a’r IMF.

Mae argyfwng dyled y wlad wedi cael effaith ar farchnadoedd stoc yn rhyngwladol, sydd yn ei dro wedi gwanhau’r Ewro, wnaeth gwympo i’w lefel isaf ers pedair blynedd yn erbyn y ddoler ddoe.