Gallai hyd at 500 o swyddi gael eu colli yng nghyngor sir Caerfyrddin dros y pedair blynedd nesaf, wrth i’r awdurdod fynd ati i geisio arbed arian.

Yr amcan yw osgoi diswyddo gorfodol, ond ni ellir diystyru hyn, yn ôl y cyngor.

Mae gweithwyr wedi derbyn llythyr yn dweud fod angen gwneud arbedion o tua £28 miliwn o fewn y cyfnod yma.

A chan fod 50% o gostau yn ymwneud â gweithwyr, bydd canolbwyntio penodol yn digwydd ar swyddi.

Mae’n debygol y bydd rhwng 400 a 500 o swyddi yn dod i ben. Bydd rhai swyddi yn diflannu ar ôl i weithwyr ymddeol neu adael ond, os nad oes modd cynnig gwasanaethau mewn dull gwahanol, llai costus, bydd rhaid ystyried diswyddiadau.

Y gobaith yw y bydd unrhyw ddiswyddiadau yn rai gwirfoddol, ac yn sgîl hyn, mae’r cyngor wedi gofyn a oes gan weithwyr sydd dros 55 ddiddordeb mewn ymddeol yn gynnar.

Mae’r cyngor hefyd wedi gofyn a oes gan weithwyr ddiddordeb mewn lleihau eu horiau gwaith, cael egwyl ddi-dâl o’r gwaith, dechrau gweithio yn rhan amser, neu rannu swydd.

Eisoes wedi disgyn

Mae’r nifer o weithwyr sy’n cael eu cyflogi gan y cyngor wedi bod yn disgyn ers rhai blynyddoedd.

Roedd tua 10,000 yn gweithio yno tua thair blynedd yn ôl, ond yn ôl yr awdurdod, tua 9,000 o bobol sydd yn gweithio yno bellach.