Bydd y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yn y refferendwm ar fwy o ddatganoli yn cael ei brofi gan grwpiau ffocws.
Fe fydd y Comisiwn Etholiadol yn profi’r cwestiwn i sicrhau bod pleidleiswyr yn ei ddeall ac nad ydy o’n rhoi mantais i’r naill ochor yn y ddadl.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol y byddai angen pythefnos arnyn nhw er mwyn dechrau’r ymgynghoriad a 10 wythnos arall i gwbwlhau’r gwaith.
Mae gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, tan 17 Mehefin, i osod y gorchymyn gerbron y Senedd neu ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn esbonio pam.
“Derbyniodd Ysgrifennydd Cymru’r llythyr gan y Prif Weinidog bore ma,” meddai’r Swyddfa Gymreig.
“Mae hi’n parhau i weithio tuag at gynnal refferendwm ac roedd hi wedi trefnu cyfarfod y Comisiwn Etholiadol i’w drafod dydd Llun.”
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid yn y Cynulliad, Nick Bourne, yn gynharach yn yr wythnos bod refferendwm ym mis Hydref yn ymddangos yn annhebygol.
Fe allai rywun ei herio’n gyfreithiol pe bai’n cael ei frysio drwy San Steffan, meddai.
Ymateb Hain
Dywedodd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, ei fod o’n croesawu datganiad Prif Weinidog Cymru.
“Mae gan glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol nawr ddyletswydd i sicrhau ei bod hi’n bosib galw’r refferendwm ym mis Hydref,” meddai.
“Mae’r gwaith paratoadol wnes i fel Ysgrifennydd Cymru yn golygu ei bod hi’n bosib cwrdd â’r amserlen yma. Does gan Cheryl Gillan ddim esgus i geisio osgoi gwneud.”
Dywedodd y dylai Cheryl Gillan roi’r gorau i gadw’n dawel ynglŷn â pha ochor y mae hi’n ei gefnogi.