Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young wedi dweud ei fod yn awyddus i orffen y tymor ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth yn erbyn Toulon yn rownd derfynol y Cwpan Amlin ddydd Sul.

“Roedden ni’n siomedig i beidio cyrraedd y gemau ail gyfle yn y Gynghrair Magners, ond fe fyddai’n wych ennill y cwpan a gorffen y tymor ar nodyn uchel,” meddai Dai Young.

“Mae’n rownd derfynol cystadleuaeth Ewropeaidd ac mae pawb yn edrych ‘mlaen”

Mae Dai Young yn cydnabod bod ei dîm yn wynebu tasg anodd yn erbyn y Ffrancwyr, ond mae’n ffyddiog yng ngallu’r chwaraewyr i lwyddo.

“Mae Toulon yn dîm cryf a orffennodd yn ail yng Nghynghrair Ffrainc ac mae ganddynt nifer o sêr yn y garfan,” meddai.

“Maen nhw’n dîm Ffrengig nodweddiadol – blaenwyr cryf yn ogystal â llawer o angerdd ymysg y cefnwyr.

“Ond rwy’n hyderus yn ein tîm – maen nhw wedi perfformio’n wych yn enwedig tuag at ddiwedd y tymor,” ychwanegodd Dai Young.