Mae’r pleidiau eraill wedi cefnogi galwad y Prif Weinidog Carwyn Jones am refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad ym mis Hydref.
Plaid Cymru, partneriaid Llafur yn llywodraeth y glymblaid, oedd y cyntaf i gefnogi gan ddweud bod y refferendwm nawr yn fater o “ewyllys gwleidyddol”.
“Ar ddiwedd cyfnod o ansicrwydd, mae gyda ni nawr Lywodraeth yn San Steffan sydd angen ystyried y cais ma Cynulliad Cymru wedi ei wneud am refferendwm,” meddai’r AC Dai Lloyd.
“Ni ddylai hwn fod yn gyfle i sgorio pwyntiau gwleidyddol a chwarae gemau – wedi’r cyfan r’yn ni’n siarad am allu Llywodraeth y Cynulliad i gynnal ei hun mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.
“Roedd y refferendwm yn addewid yng nghytundeb Cymru’n Un – ac mae o’n addewid ydan ni eisiau ei gadw.
“Yn amlwg mae’r amserlen yn dynn o ran refferendwm ym mis Hydref, ond mae’n ddibynnol ar yr ewyllys gwleidyddol i gwblhau’r gwaith.”
Pleidleisiodd ACau yn unfrydol o blaid refferendwm ym mis Chwefror. Cyn hynny roedd Confensiwn Cymru Gyfan wedi dweud y byddai refferendwm yn debygol o gael pleidlais ‘ie’.
Dems Rhydd
“Mae wythnos wedi gwneud tipyn o wahaniaeth. Mae Llafur a Plaid Cymru wedi treulio tair blynedd yn ceisio oedi cynnal refferendwm ,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams.
“Mae yna gytundeb ar draws pob un o’r pleidiau na ddylai refferendwm gael ei gynnal ar yr un diwrnod ac etholiadau’r Cynulliad.
“Mae Llywodraeth newydd San Steffan yn ymroddedig i gynnal y refferendwm a bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgyrchu o blaid pleidlais ‘ie’ yn yr ymgyrch.”