Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw heddiw am gynnal refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad ym mis Hydref.

Mae o hefyd wedi datgelu beth fydd y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yn y refferendwm, pe bai o’n cael ei ffordd.

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud yn y gorffennol eu bod nhw’n cadw pob opsiwn yn agored ar gyfer dyddiad y refferendwm, ond bod yn rhaid ei gynnal cyn yr etholiadau mis Mai nesaf.

Ond mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan dywedodd Carwyn Jones ei fod o’n “ffafrio yn gryf” cynnal y bleidlais ym mis Hydref.

Bydd rhaid i Senedd San Steffan bleidleisio o blaid cynnal y refferendwm, a pa gwestiwn fydd yn cael ei ofyn, cyn bod y bleidlais yn cael mynd yn ei flaen.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod o wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Cymru yn awgrymu beth fydd y cwestiwn a hefyd yn mynegi ei farn mai mis Hydref fyddai’r amser gorau i gynnal refferendwm.

“Mae o nawr yn fater i Ysgrifennydd Cymru ystyried y cwestiwn a’r dyddiad,” meddai.

Ar ôl cael ei phenodi i’r Cabinet dywedodd Cheryl Gillan ei bod hi wedi ei synnu cyn lleied o waith paratoadol oedd wedi ei wneud gan ei rhagflaenydd Peter Hain.

Y cwestiwn

Ar hyn o bryd mae’r Cynulliad yn cael gwneud deddfau ar rai pethau, ond nid popeth, sy’n effeithio ar bobol Cymru.

Mae’r Senedd wedi penderfynu y dylai’r Cynulliad allu deddfu ar bob pwnc datganoledig. Fe fydd hyn yn digwydd os ydi Cymru yn ei gefnogi mewn refferendwm.

Mae’r pynciau yn cynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, addysg a llywodraeth leol. Fyddai gan y cyfreithiau ddim byd i’w wneud gydag amddiffyn neu faterion tramor.

Ydych chi eisiau i’r Cynulliad gael y pŵer nawr i ddeddfu ar y pynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru?

Ie/Na

Pôl piniwn Golwg 360

Ydych chi eisiau i’r Cynulliad gael y pŵer nawr i ddeddfu ar y pynciau sydd wedi eu datganoli i Gymru?Market Research