Mae gŵyl gymunedol yn Sir Benfro sy’n denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn wedi colli ei thrwydded eleni ,a hynny ar sail pryderon am ddiogelwch.

Mae is-bwyllgor Cyngor y Sir wedi tynnu trwydded Gŵyl Roc y Garreg Las yn ôl oherwydd pryderon diogelwch a diffyg cynnydd ar reolaeth yr ŵyl dros y pum mlynedd diwethaf.

Roedd Heddlu Dyfed Powys a’r awdurdod rheoli llygredd eisoes wedi annog y Cyngor i dynnu’r drwydded yn ôl.

Ymhlith y ffactorau oedd yn gyfrifol am y penderfyniad yn ôl y Cyngor oedd “tystiolaeth o’r gorffennol” nad oedd yr ŵyl yn “cydymffurfio gyda nifer o’r amodau oedd wedi’u gosod dros y blynyddoedd”.

“Mae tystiolaeth amlwg o ddiffyg cynnydd yn y gwaith o redeg y digwyddiad dros y pum mlynedd diwethaf,” meddai’r cyngor ,cyn nodi eu bod hefyd wedi sylwi fod “agwedd negyddol” tuag at swyddogion yr awdurdod “cyn ac yn ystod yr ŵyl”.

Mae’r is-bwyllgor hefyd yn nodi eu bod yn credu bod “diffyg proffesiynoldeb a chymhwysedd” gan y rheolwyr.

Mae disgwyl i drefnwyr yr ŵyl apelio yn erbyn y penderfyniad.