Bydd dau o chwaraewyr y Gweilch yn cael llawdriniaeth yr wythnos yma.

Fe ddioddefodd Tom Isaacs anaf i’w ben-glin wrth ymarfer gyda thîm saith bob ochr Cymru wrth iddynt baratoi i gystadlu yng nghymalau Llundain a Chaeredin o’r gyfres flynyddol.

Mae’r anaf yn ergyd i’r mewnwr oedd newydd ddychwelyd i chwarae i Abertawe mis diwethaf ar ôl cyfnod o chwe mis allan gydag anaf i’w ysgwydd.

“Bydd rhaid i Tom gael llawdriniaeth ac mae’n edrych yn debyg bydd e’ allan o’r gêm am rhwng pedwar a phum mis,” meddai ffisiotherapydd y Gweilch, Chris Towers.

Mae Barry Davies hefyd yn wynebu cyfnod allan o’r gêm wrth iddo gael ail lawdriniaeth ar broblem i’w werddyr.

Dim ond 20 munud chwaraeodd Barry Davies ym mis Tachwedd oherwydd yr anaf.

“Dyw Barry heb wella cystal â’r disgwyl yn dilyn llawdriniaeth ym mis Mawrth. Fe fydd rhaid iddo gael llawdriniaeth bellach i wella’r anaf i’w werddyr,” ychwanegodd Chris Towers.