Roedd cwmni datblygu busnes wedi methu â rheoli cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus yn iawn, yn ôl adroddiad swyddogol.
Doedd yna ddim tystiolaeth o dwyll yng nghwmni Cymad yng Ngwynedd ond, yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, roedd yna enghreifftiau o reoli gwan iawn a diffyg rheolaeth ariannol.
Mae’n dweud hefyd bod cyrff cyhoeddus wedi methu â chadw llygad digon agos ar y defnydd o’u harian a’u bod nhw wedi methu â rhannu gwybodaeth pan ddechreuodd amheuon godi.
Yn ôl yr Archwilydd, mae “angen o hyd i gyrff cyhoeddus ddysgu gwersi wrth ariannu cwmnïau bach yn y sector preifat”.
Mynd i’r wal
Fe aeth cwmni nid-er-elw, Cymad, i’r wal ym mis Awst 2009 ar ôl derbyn £3.6 miliwn mewn arian cyhoeddus rhwng 2003 a 2008. Roedd yn wynebu gorfod talu’n ôl mwy na £300,000 o grantiau o’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl yr adroddiad, doedd Cymad ddim wedi rheoli arian yn effeithiol, na chwaith wedi gallu cyfrif am gyfran ohono.
Doedd rheolwyr ddim yn deall y rheolau caeth oedd ynghlwm wrth arian o Ewrop – er enghraifft wrth gadw taflenni amser i weithwyr.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o argymhellion:
• Dylai cyrff cyhoeddus gynnal adolygiadau parhaus o sefyllfa ariannol cwmnïau;
• Dylai cyrff cyhoeddus fynnu cael gwybodaeth os oedd unrhyw un o swyddogion cyllid cwmni yn cael ei amau o dwyll – fe ddigwyddodd hynny yn achos Prif Weithredwr Cymad, Elwyn Vaughan.
• Cyn cael taliadau ymlaen llaw, dylai derbynwyr grant orfod dangos na all prosiect barhau heb gymorth arian cyhoeddus;
• Dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru fynnu bod ei hadrannau ac asiantaethau yn rhannu gwybodaeth am wendidau sy’n cael eu gweld yn nhrefniadau rheoli ariannol cwmnïau sy’n derbyn grantiau.
Meddai’r Archwilydd
“Bob blwyddyn, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dosbarthu symiau sylweddol o arian i sefydliadau bach yng Nghymru,” meddai Gillian Bod, heddiw.
“Mae’n gwbl hanfodol bod gan y sefydliadau hyn ddulliau effeithiol ar waith i reoli’r risgiau o golli neu gamddefnyddio arian trethdalwyr.
“Ac mae’n bwysig iawn bod cyrff cyhoeddus yn rhannu gwybodaeth am unrhyw wendidau a nodwyd yn y sefydliadau hynny.”
Cymad – y cefndir
Sefydlwyd Cymad Cyf yn 1995 i gynorthwyo i ddatblygu cymunedau gwledig ym Meirionydd a Dwyfor, yng ngogledd Cymru.
Roedd y cwmni wedi derbyn arian gan: y Cyngor Cenedlaethol dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; Cyngor Gwynedd; Awdurdod Datblygu Cymru; Cyngor Cefn Gwlad Cymru; Bwrdd Croeso Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.