Mae’r Prif Weinidog wedi galw ar Network Rail a’r undebau i ddod i gytundeb ynglŷn â swyddi ac amodau gweithio wrth iddynt fygwth streic pedwar diwrnod yn syth ar ôl Pasg.
Fe allai’r gweithredu diwydiannol ar 6 Ebrill achosi’r aflonyddwch mwyaf ers 16 mlynedd wrth i filoedd o aelodau o’r Undeb Rheilffordd, Mor a Thrafnidiaeth a’r TSSA (Undeb i bobl yn y sector trafnidiaeth) fynd ar streic.
Dywedodd yr Undeb Rheilffordd, Môr a Thrafnidiaeth y byddai 5,000 o’u haelodau, sy’n gweithio fel signalwyr, yn mynd ar streic rhwng 6am a 10am a rhwng 6pm a 10pm ar 6,7,8 a 9 Ebrill.
Fe fydd y streicwyr hefyd yn gwrthod gweithio oriau a dyddiau ychwanegol yn ystod y gweithredu diwydiannol.
Y streic fydd yr ataliad cenedlaethol cyntaf ers i streic yn 1994 arafu’r gwasanaeth drenau am ddyddiau. Mae disgwyl iddo ddechrau’r un diwrnod ac y bydd Gordon Brown yn cyhoeddi’r Etholiad Cyffredinol.
“Dyw streiciau ddim o fudd i neb, ac mae’r Prif Weinidog yn gobeithio y bydd y trafodaethau yn parhau a’u bod nhw’n dod i benderfyniad.”
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Rheilffordd, Môr a Thrafnidiaeth, Bob Crow, nad oedden nhw wedi derbyn unrhyw gynnig pendant gan Network Rail “er gwaethaf oriau hir o drafodaethau”.
Ychwanegodd y byddai cynlluniau Network Rail “i dorri 21% o’i gyllideb a thorri 1,500 o swyddi “yn tanseilio diogelwch ar reilffyrdd ledled Prydain ac yn arwain at “Hatfield, Potters Bar neu Grayrigg arall”.