Mae’n debyg y bydd cyn asiant y KGB, Alexander Lebedev, yn prynu papur newydd yr Independent a’r Independent on Sunday am £1 yn unig.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Sky, mae’r perchnogion presennol, Independent News & Media, yn mynd i dalu £9.25 miliwn dros gyfnod o 10 mis i Alexander Lebedev. Fe fydd yn cymryd y cyfrifoldeb am y papurau sydd ar hyn o bryd yn gwneud colled.

Yn ôl Sky, mae Alexander Lebedev wedi dweud y bydd ei fab, Evgeny, yn cael ei benodi’n gadeirydd i’r cwmni newydd, Independent Print Limited.

Bydd y cwmni yma yn derbyn yr holl hawliau ar gyfer y ddau bapur a’u gwefan.

Mae pencadlys y ddau bapur eisoes yn rhannu’r un adeilad yn Llundain a phencadlys papur newydd y London Evening Standard – mae Alexander Lebedev hefyd yn berchen 75% o’r papur yma.

Mae disgwyl i’r cytundeb gael ei gadarnhau ym mis Mai.