Mae Aelod Seneddol oedd yn cadeirio pwyllgor sy’n gwarchod safonau Tŷ’r Cyffredin yn gorfod talu arian yn ôl ar ôl hawlio treuliau am defnyddio ail gartref.

Roedd y Ceidwadwr David Curry AS wedi cael lwfans am eiddo yn Swydd Efrog er nad oedd bron byth yn aros yno.

Fe adawodd David Curry ei swydd fel cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn yr hydref yn dilyn beirniadaeth am ei dreuliau.

Mae’n rhaid iddo ad-dalu £38,000 a chyflwyno ymddiheuriad ar bapur i’r Tŷ.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau, John Lyon, fod hyn yn fater “difrifol.” Dywed David Curry ei fod yn defnyddio’r tŷ yn ystod y dydd tra roedd yn gweithio yn yr etholaeth.